Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 143(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

((Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rheolau sydd i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer achosion sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn y Rheoliadau.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2022. Diffinnir diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn adran 43(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) o ran hereditamentau sy’n cael eu meddiannu ac adran 45(3) o ran hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i hereditamentau diffiniedig. Hereditament diffiniedig yw hereditament a ddangosir ar restr leol ar 31 Mawrth 2017, ar y diwrnod perthnasol ac ar bob diwrnod rhyngddynt. Pan dynnir hereditament ymaith o restr leol, yn ddarostyngedig i unrhyw apelau, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i’r hereditament o’r diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith. Ni fyddai tynnu ymaith o’r fath yn cael effaith ar gymhwyso’r rheolau rhagnodedig i’r hereditament cyn y diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y cynnydd yn rhwymedigaeth y trethdalwr o ganlyniad i ailbrisiad 2017. Mae rheoliad 4 yn cyfrifo’r swm a godir am yr hereditament ar 31 Mawrth 2017 (y rhwymedigaeth sylfaenol). Dyma’r diwrnod cyn i’r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2017 gael effaith. Y lluosydd ardrethu annomestig a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17 o dan baragraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yw 0.486. Gan fod rheoliad 9(a) yn darparu nad yw’r rheolau a ragnodir yn y Rheoliadau yn gymwys oni fo’r hereditament yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, mae’r fformiwla ar gyfer canfod y rhwymedigaeth sylfaenol yn cynnwys E. E yw’r ffigur a ragnodir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/229) (Cy. 11) sy’n gymwys i’r hereditament o dan sylw ar 1 Ebrill 2017. Gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adran 44(9) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 yn darparu’r fformiwla ar gyfer canfod y swm tybiannol a godir (“NCA”). Dyma’r swm a godir a fyddai’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2017 pe na bai’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Ceir dwy fformiwla yn rheoliad 6 er mwyn adlewyrchu’r posibilrwydd y gallai’r rheolau rhagnodedig fod yn gymwys i drethdalwyr sy’n derbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a threthdalwyr nad ydynt, ers yr ailbrisiad, yn derbyn rhyddhad o’r fath.

Mae’r fformiwla i ganfod yr NCA yn defnyddio’r gwerth ardrethol, y lluosydd ardrethu annomestig a, phan fo hynny’n angenrheidiol, E, fel y maent ar 1 Ebrill 2017. Nid yw’r ffaith y gallai’r diwrnod perthnasol y cyfrifir y swm y codir ar ei gyfer fod yn hwyrach nag 1 Ebrill 2017 yn newid y ffigurau hyn. Y rheswm am hynny yw bod y gostyngiad mewn rhwymedigaeth yn seiliedig ar gyfran o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2017 ac 1 Ebrill 2017 o ganlyniad i lunio’r rhestrau newydd.

Mae rheoliad 7 yn addasu rheoliadau 6 mewn achos pan fo newid i’r gwerth ardrethol ar gyfer hereditament yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol, ond o ddiwrnod ar ôl 1 Ebrill 2017. Mae’n gweithredu fel bod yr NCA, a ddefnyddir at ddibenion rheoliad 9(b) a’r fformiwlâu yn rheoliadau 14 i 16, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gwerth ardrethol newydd yn hytrach na’r gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2017. Bydd y lluosydd ardrethu annomestig ac E yn parhau fel ag yr oeddynt ar 1 Ebrill 2017.

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r disgrifiadau o achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 9(a) yn cyfyngu cymhwysiad y rheolau rhagnodedig i hereditamentau a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach cyn yr ailbrisiad. Mae rheoliad 9(b) yn darparu trothwy de minimis; pan fo rhwymedigaeth wedi codi £100 neu lai, nid oes gostyngiad mewn rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 9(c) yn ei gwneud yn ofynnol bod yr un person wedi meddiannu’r hereditament diffiniedig er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad. Pan fo meddiannaeth yr hereditament yn newid ar 1 Ebrill 2017 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys.

Mae rheoliad 10 yn disgrifio achosion pan na fo’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Mae rheoliad 10(a) yn ymdrin â’r posibilrwydd bod meddiannydd, sydd hefyd yn berchennog ar hereditament, yn peidio â meddiannu’r hereditament ac yn dod o fewn yr achosion yn adran 45A(2) neu (3) o’r Ddeddf (elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur cofrestredig). Mewn achos o’r fath, rhwymedigaeth y trethdalwr fyddai sero, yn unol ag adran 45A(1) o’r Ddeddf. Mae rheoliad 10(b) yn ymdrin ag achosion pan na fo rhan o hereditament yn cael ei meddiannu a bod yr awdurdod bilio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr hereditament rhwng y rhan sy’n cael ei meddiannu a’r rhan nad yw’n cael ei meddiannu o’r hereditament o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf. Nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys mewn achos o’r fath. Nid oes unrhyw ostyngiad mewn swm a godir ar gael felly pan fo dosraniad o’r fath yn gymwys i hereditament diffiniedig ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

Pan fo hereditament diffiniedig yn achos sy’n dod o fewn pob un o’r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau yn rheoliad 10, mae’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 17 yn gymwys. Mae’r rheolau hyn i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef.

Y cam cyntaf o dan reoliad 12 yw cyfrifo’r swm a godir am yr hereditament o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu ac adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu. Yr ail gam yw gostwng y swm hwnnw yn ôl y symiau a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 17 sy’n gymwys.

Mae rheoliadau 14 i 17 yn darparu gostyngiad graddol mewn symiau a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2020. Yn y flwyddyn gyntaf, gostyngir y swm a godir yn ôl swm sy’n gyfwerth â 75% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2017 ac 1 Ebrill 2017. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gostyngir y swm a godir yn ôl 50% a 25%, yn y drefn honno, o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2017 ac 1 Ebrill 2017. Cyfrifir y gostyngiad yn y swm a godir ar gyfer pob diwrnod perthnasol, a defnyddir y ffigur 366 yn rheoliad 16 i adlewyrchu’r ffaith bod 2020 yn flwyddyn naid. Mae rheoliad 17 yn darparu mai’r swm a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2022 yw’r swm a ganfyddir o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu ac adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu (hynny yw, nid oes gostyngiad ar gyfer y blynyddoedd ariannol hynny).

Mae rheoliad 13 yn sicrhau nad yw’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y swm a godir i swm islaw sero.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 143(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                        31 Rhagfyr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58, 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac a freinir bellach ynddynt hwy([2]).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(4) o’r Ddeddf honno([3]).

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran y blynyddoedd ariannol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.

RHAN 1

Rhagarweiniol: cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2016([4]) ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2022 (“y cyfnod perthnasol”).

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);

ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf([5]);

ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“BL”) (“base liability”, “BL”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “swm tybiannol a godir” (“NCA”) (“notional chargeable amount”, “NCA”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau 6 a 7.

Hereditament diffiniedig

3. Mae hereditament yn hereditament diffiniedig o ran diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol ar—

(a)     31 Mawrth 2017,

(b)     y diwrnod perthnasol, ac

(c)     pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2017 a chyn y diwrnod perthnasol.

RHAN 2

Rhagarweiniol: cyfrifiadau

Rhwymedigaeth sylfaenol

4. Cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Pan—

A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar 31 Mawrth 2017, ac

E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2017 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015([6]).

Swm tybiannol a godir

5. Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.

6.(1)(1) Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf (rhyddhad ardrethi i fusnesau bach) yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2017, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

(2) Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

(3) At ddibenion y rheoliad hwn—

A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar 1 Ebrill 2017,

B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf([7]), ac

E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2017 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015.

7.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2017, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol ar 1 Ebrill 2017.

(2) O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2017”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a

(b)     ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”.

RHAN 3

Achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt

8. At ddibenion adran 58(2) o’r Ddeddf, yr achosion yw’r rhai sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 10.

Disgrifiadau rhagnodedig

9. Hereditament diffiniedig—

(a)     y mae adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys iddo ar 31 Mawrth 2017,

(b)     pan fo’r NCA yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

, ac

(c)     pan fo meddiannydd yr hereditament, ar y diwrnod perthnasol, yr un person â’r meddiannydd ar 31 Mawrth 2017.

Eithriadau

10. Hereditament diffiniedig—

(a)     pan fyddai, ar y diwrnod perthnasol, y swm a godir yn sero fel arall o dan adran 45A o’r Ddeddf (hereditament nad yw’n cael ei feddiannu: cyfradd sero), neu

(b)     pan fo, ar y diwrnod perthnasol, ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf (hereditamentau a feddiennir yn rhannol) yn gymwys i’r hereditament ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

RHAN 4

Rheolau rhagnodedig

Rheolau ar gyfer canfod y swm a godir

11. At ddiben adran 58(3)(a) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 17.

12. Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 43 neu 45 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 17 sy’n gymwys.

13. Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 17 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017

14. Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018

15. Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019

16. Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021

17. Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.

RHAN 5

Dirymiadau

18. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999([8]), a

(b)     Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000([9]).

 

Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Chyllid, un o Weinidogion Cymru

XX Tachwedd 2016



([1])           1988 p.  41. Diwygiwyd adran 58 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 68 o Atodlen 13 iddi, adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p. 3), adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29), a pharagraff 5 o Atodlen 1 iddi, adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) ac adran 2(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9), a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi.

([2])           Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ’r Senedd yn adran 143(4) o’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

([4])           Yn unol ag adran 58(8) o’r Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i reoliadau ddod i rym cyn 1 Ionawr yn union cyn y flwyddyn ariannol y maent yn berthnasol iddi.

([5])           Roedd Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370) (Cy. 139), a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 54A o’r Ddeddf, yn pennu 1 Ebrill 2017 fel y dyddiad y mae rhestrau ardrethu annomestig lleol i’w llunio ar gyfer awdurdodau bilio yng Nghymru, yn hytrach nag 1 Ebrill 2015, sef y dyddiad y byddai’n rhaid eu llunio fel arall.  

([6])           O.S. 2015/229 (Cy. 11). Fe’i diwygiwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/32) (Cy. 13).

([7])           Mewnosodwyd paragraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf gan adran 62(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

([8])           O.S.  1999/3454 (Cy. 51).

([9])           O.S.  2000/2041 (Cy. 147).